Interested in joining the Grow Cardiff team? We're recruiting!

We’re recruiting for a new Project Officer (Site Lead) for the Grow Well Project! For more information about the role and how to apply – please click here.

Amdanom Ni

O egin bach i wreiddiau dwfn

Wedi’i lansio ym mis Mehefin 2015 gyda 10 mlynedd o weithdai tyfu a chymunedol arobryn yng Ngardd Gymunedol Glan yr Afon, ffurfiwyd Tyfu Caerdydd gan grŵp bach o bobl leol ddyfal sy’n ceisio cefnogi eraill i drawsnewid ardaloedd trefol di-fflach yn hybiau cynhyrchiol, llawn natur, llawn bwrlwm sy’n gwasanaethu eu cymuned.

Rydym ni’n mynd ati i geisio herio anghydraddoldebau trefol a gweithio gyda grwpiau difreintiedig lle mae pobl yn cael eu gwthio i’r cyrion oherwydd tlodi neu ddiffyg cyfle. Trwy ein prosiectau tyfu, ein nod yw cael effaith drawsnewidiol ar iechyd, unigedd ac unigrwydd corfforol a meddyliol pobl.

Mae ein dull ‘seiliedig ar asedau’ yn golygu ein bod yn dewis peidio â chanolbwyntio ar afiechyd neu broblemau, ond yn hytrach ysbrydoli a meithrin pobl, gan wireddu eu doniau a’u sgiliau. Wrth i erddi cymunedol dyfu, felly hefyd y bobl. Rydym ni am weld bywydau’n trawsnewid trwy arddio cymunedol, dod yn gysylltiedig, yn gefnogol, yn iachach, wedi’u grymuso ac yn llawen.

EIN GWERTHOEDD CRAIDD

Rydym ni’n cael ein harwain gan y gymuned

Rydym ni’n credu bod gan bobl leol sydd â phrofiad byw yr allwedd i drawsnewid eu cymunedau a’u gofodau, ac rydym ni’n ceisio cyd-gynhyrchu prosiectau sy’n diwallu eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Ein nod yw bod yn sefydliad sydd bob amser yn dysgu gan eraill, gan drosglwyddo gwybodaeth, rhannu sgiliau a phrofiad gyda chymaint o bobl â phosibl, a grymuso pobl i wneud newid go iawn a pharhaol iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau trwy dyfu gyda’i gilydd.

Rydym ni’n gofalu am bobl a’r blaned

Rydyn ni’n poeni’n fawr am bobl a natur.

Rydym ni’n defnyddio tyfu a garddio fel offer sy’n meithrin ac yn cefnogi pobl, yn enwedig y rhai sy’n profi heriau iechyd meddwl, iechyd corfforol, ynysu ac unigrwydd.

Rydym ni’n credu bod gan dyfu gyda’n gilydd y pŵer i wella a galluogi pobl i ffynnu, yn enwedig y rhai ar gyrion cymdeithas a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Rydym ni’n dathlu profiadau bob dydd

Rydym ni’n dilyn dull seiliedig ar asedau yn ein gwaith, gan ganolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud – yr doniau, y sgiliau a’r profiad maen nhw’n eu cynnig – yn hytrach na’u problemau.

Rydym ni’n ceisio lledaenu brwdfrydedd, llawenydd a chyfeillgarwch, a’n nod yw helpu pobl i ddod o hyd i ystyr a phwrpas wrth weithio a thyfu gyda’i gilydd.

Rydym ni’n meithrin diwylliant o ddathlu ar gyfer profiad bob dydd.

Ein Staff

Ali Underwood

Swyddog Meysydd Chwarae Bwytadwy a Swyddog Prosiect GW (Lansdowne)

Alka Horne

Cysylltydd Prosiect Tyfu’n Dda (Glan yr Afon)

Chris Miller

Cydlynydd Tyfu’n Dda a Swyddog Prosiect Tyfu’n Dda (Glan yr Afon)

Claire Terry

Swyddog Gwerthuso Prosiect Tyfu’n Dda

Isla Horton

Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd

Liz Burnett

Swyddog Gweinyddol a Chyllid

Sam Young

Cysylltydd Prosiect Tyfu’n Dda (Dusty & Lansdowne)

Sarah Jaques

Swyddog Prosiect Tyfu’n Dda (Glan yr Afon)

Tony Allsop

Mentor Gwirfoddolwyr Gardd Gymunedol Glan yr Afon

Ein Hymddiriedolwyr

Alun Jones

Danny Owen

Dr Jemma Hawkins

Francoise Curtis

Nikki Thomas

Sarah Griffiths

Steve Parry-Langdon

Aisling Judge

Penny Smith

Ein Gwirfoddolwyr Arweiniol

Pan fydd rhywun wedi bod yn gwirfoddoli gyda Tyfu Caerdydd am gyfnod, neu pan fydd rhywun newydd i’r prosiect eisiau helpu eraill ac ymdaflu eu hunain i hyn, rydym ni’n eu croesawu i rôl Gwirfoddolwr Arweiniol. Mae Gwirfoddolwyr Arweiniol yn cefnogi cyfranogwyr gwirfoddol a’r tîm staff ar draws ein holl brosiectau ac maen nhw’n amhrisiadwy o ran yr anrhegion, y sgiliau a’r profiad a ddaw yn eu sgil. Ddiddordeb?! Gallech wirfoddoli eich amser yn y prosiect Tyfu’n Dda, gyda’n tîm ysgolion neu erddi cymunedol.

Noder os gwelwch yn dda i wirfoddoli yn Tyfu’n Dda neu gydag ysgolion, mae’n ofynnol i ni gynnal gwiriad DBS. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy:

Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil bod yn rhan o fenter Meysydd Chwarae Bwytadwy. Mae bod allan gyda’r plant wedi bod yn llawer o hwyl, gan eu dysgu am dyfu, cynaliadwyedd a bwyta’n iach. Rwyf wrth fy modd yn gweld eu hwynebau llawn rhyfeddod adeg y cynhaeaf. Caroline, Gwirfoddolwr Arweiniol

© 2024 Grow Cardiff Registered Charity Number (England and Wales): 1161591 Privacy Policy Web Design & Development By Glue Studio