Interested in joining the Grow Cardiff team? We're recruiting!

We’re recruiting for a new Project Officer (Site Lead) for the Grow Well Project! For more information about the role and how to apply – please click here.

Wrth i erddi cymunedol dyfu,
felly hefyd y bobl

Tyfu Caerdydd ydym ni. Ein cenhadaeth yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio garddio cymunedol nid yn unig i dyfu llysiau, perlysiau, coed a blodau gwych, ond trwy hyn i adeiladu cymunedau gofalgar a chynhwysol lle gall pawb ffynnu.

Tyfu Caerdydd ydym ni

Wedi’i sefydlu gan bobl leol ar gyfer pobl leol yn 2015, ein gweledigaeth yw gweld bywydau’n cael eu trawsnewid trwy arddio cymunedol yn unigolion a chymunedau llawen, cysylltiedig a chefnogol, iach a grymus; gyda gerddi llawn bywyd gwyllt, a chynnyrch blasus, y gall pawb ei rannu.

What We Do

Garddio ar gyfer Iechyd a Lles

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r GIG a sefydliadau iechyd cymunedol ar ein prosiect rhagnodi cymdeithasol arobryn, Tyfu’n Dda, sy’n helpu pobl mewn angen, i adfer a ffynnu

Stori Geoff

18 mis yn ôl mi gefais i ddwy strôc – un yn strôc fawr wnaeth wir amharu arnaf fi. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf ar goll i fod yn onest. Roedd dod o hyd i’r lle hwn yn fendith a dydw i ddim yn garddio, ddim o gwbl, ddim o bell ffordd. (Gwirfoddolwr, Prosiect Tyfu’n Dda)

Roedd y gweithdai’n ardderchog, yn ysbrydoledig iawn…. Fel ysgol, rydym ni’n pwysleisio…dysgu yn yr awyr agored ac mae’n bendant yn fuddiol i’n dysgwyr

Athro, Ysgol Gynradd Herbert Thompson

Gweithdai

© 2024 Grow Cardiff Registered Charity Number (England and Wales): 1161591 Privacy Policy Web Design & Development By Glue Studio